Mobile menu
Join button
Hafan   Amdanom   Hoyw   Pecyn y Wasg   Cysylltu   Ymgysylltu   Blog   

Am dinkyone.com

Mae’r cyfryngau a’r we yn rhoi pwysau cynyddol ar ddynion i gyrraedd rhyw safonau arbennig, boed hynny’n ddelwedd gorfforol neu faint eu pidyn. Mae delwedd gorfforol yn rhywbeth y gellir ei reoli fel arfer, ond nid felly hyd dy bidyn, oni bai dy fod yn mynd am lawdriniaeth.

Ar ben hynny, mae’r we yn llawn honiadau a nwyddau ffug i gynyddu maint pidyn. Erbyn hyn mae llawer o ddynion ifanc dan yr argraff bod angen pidyn 12 modfedd i fodloni partner. Dydi hyn ddim yn wir o gwbl, ac mae ein gwefan garu ni yma i normaleiddio’r sefyllfa.

Mae’r wefan yng ngofal dm³ sy’n berchen ar nifer o wefannau caru ar-lein. Mae’r platfform a ddefnyddir i redeg y wefan yn un safonol iawn sydd yn gyfan gwbl ym meddiant dm³. Nid gwefan label wen arall sydd yma, nac un sy’n rhannu bas data. Mae’n ddarpariaeth 100% ar gyfer dynion â phidyn llai a phobl sy’n hoffi hynny. Mae’n rhedeg ar gyfrifiadur, ffôn a llechen electronig. Teimlwn fod dyfeisiau symudol yn allweddol i wefannau caru heddiw, ac yn fwy fyth i’n haelodau ni sydd efallai’n rhoi mwy o bwys na’r rhan fwyaf o bobl ar breifatrwydd.

Pwy sydd eisiau pidyn llai?

Mae llawer o resymau pam mae’n well gan rai pobl bidyn llai o faint:

Menywod strêt sy’n hoff o bidyn llai

Mae yna ferched y mae’n well ganddyn nhw bidyn llai er mwyn bod yn gyfforddus ac sy’n dal i gael mwynhad mawr o gael rhyw gyda dyn â phidyn llai. Mae ’na rai hefyd sy’n mwynhau dynion llai yn well am eu bod yn tueddu i wneud iawn am y diffyg maint gyda sgiliau ychwanegol, fel mwy o brofiad gyda rhyw geneuol a rhagchwarae.

Dynion hoyw/deurywiol sy’n hoff o bidyn llai

Mae’n well gan rai dynion gael partner â phidyn bach ac mae nifer fawr o’n defnyddwyr gwrywaidd un ai’n hoyw neu’n ddeurywiol.

Dadansoddi’r ystadegau

Cofia fod cyfartaledd maint yn golygu bod 50% o’r dynion yn y byd yn fwy a 50% yn llai (a thybio ‘cromlin ddosraniad normal’). Felly, mae gan 50% o bobl sydd mewn perthynas bidyn llai na’r cyfartaledd. Mae hynny’n dangos nad yw pidyn llai yn rhwystr i fywyd carwriaethol neu berthynas.